Psalms 76

Y Duw sy'n ennill pob brwydr

I'r arweinydd cerdd. Salm gan Asaff i gyfeiliant offerynnol. Cân.

1Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw;
mae ganddo enw da yn Israel.
2Mae'n byw ar fynydd Seion,
yn Jerwsalem, dinas heddwch.
3Dyna ble torrodd e'r saethau tanllyd,
y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel.

 Saib
4Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Hardd
sy'n dod i lawr o'r mynyddoedd
ar ôl trechu dy elynion.
5Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio!
Maen nhw'n ‛cysgu‛ am y tro ola!
Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys!
6Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob,
ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw.
7O! Rwyt ti mor rhyfeddol!
Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbyn
pan rwyt ti'n ddig?
8Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd,
roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn,
9wrth weld Duw yn codi i farnu
ac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.

 Saib
10Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod
pan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn.
11Gwnewch addunedau i'r Arglwydd eich Duw, a'u cadw!
Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddion
i'r Duw sydd i'w ofni!
12Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch,
ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.
Copyright information for CYM